Helo,
Bydd yr wyl yn dechrau fory ac rwy’n edrych ymlaen at benwythnos o syniadau cyffroes ac ysbrydoliaeth newydd. Ond cyn hynny, dwi wedi edrych dros y rhaglen ac ysgrifennu beth rwy’n ei ddisgwyl o rhai pethau. Cawn weld os fydd fy marn i’n newid dros y dyddiau nesa. Un peth sy’n sicr, fe fydd hi’n ddiddorol darganfod mwy am bob un.
Alfred Sirleaf
Bydd gweithio gyda’ Alfred yn ystod yr ?yl yn brofiad arbennig. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut fydd trigolion Caerdydd yn ymateb i’w weithgaredd, ac a fydd pobl yn barod i anfon eu storïau nhw iddo hefyd?
Eddo Stern
Mae’r ffordd mae technoleg yn ysbrydoli creadigrwydd newydd yn fy niddori fi, ac mae gwaith Eddo Stern yn un o’r rheini sydd yn torri tir newydd gyda’i gelf. Fe fydd hi’n brofiad gweld ei waith yn fyw am y tro cyntaf, er nad wy’n siwr beth fydd fy ymateb iddo, fe gewch chi’r hanes i gyd yma.
Gahana Thinktank
Mae un peth yn gyffredin dros y byd – mae gan bawb eu problemau. A fydd y Gahana Thinktank yn llwyddo i ddatrys problemau Cymru? Rwy’n mawr obeithio y bydd ganddyn nhw atebion i mi beth bynnag! Dwi ddim yn siwr sut fydd y prosiect yma’n geithio, ond rwy’n edrych ymlaen i ddarganfod mwy.
Glenn Davidson
Does dim dwywaith fod Google wedi newid y byd ry’n ni’n byw ynddo, ond beth fyddai’n digwydd hebddo? Mae comisiwn Glenn Davidson wedi bod yn edrych ar oblygiadau tyfiant Google ar ein bwydau pob dydd. Bydd hi’n drafodaeth fywiog, ac mae’n fater sy’n ennyn llawer o sylw a barn.
Bwyd Sonique
Mae’r gallu i ryngweithio gyda’r gynulleidfa yn fwyfwy pwysig yn y byd technolegol rydym ni’n rhan ohoni, ac mae’r disgrifiad o’r perfformiad hwn sy’n dweud y bydd y gynulleidfa yn gweld, clywed, arogli, cyffwrdd a blasu’r perfformiad yn swnio’n flasus iawn.
Switchboard
Yn ystod yr ?yl, fe fydda’ i yn cyfrannu i’r Switchboard wrth fynd o gwmpas fy mhethau. Dwi’n edrych ymlaen at rannu fy mhrofiadau mewn sawl cyfrwng gan gynnwys lluniau, ysgrif a fideo drwy’r sianel ar lein yma sy’n cael ei chreu’n arbennig i’r ?yl.
The People Speak / Who Wants to Be…?
Mae’n debyg y bydd hwn yn ddigwyddiad hwyliog iawn ac yn arbrawf ar ddychymyg torfol gan roi gweledigaeth i ni o beth sy’n bosib gyda thechnoleg fel mae’n tyfu ar raddfa. Dwi’n siwr y digwyddiad yn ein hysbrydoli ni i gyd.
unConference
Mae’r digwyddiad yma dydd Gwener yn mynd i fod yn hynod ddiddorol. Beth yw dyfodol technoleg DIY yn ymarferol i greadigrwydd ac i fentrau gwahanol. Does gen i ddim syniad…eto.
- BROWSE / IN TIMELINE
- « Ciron Gruffydd
- » Maker Faire Africa
- BROWSE / IN News
- « Ciron Gruffydd
- » 4iP Interview
SPEAK / ADD YOUR COMMENT
Comments are moderated.










