A hithau’n brynhawn braf yng Nghaerdydd fe es i am dro i’r Amgueddfa Genedlaethol lle roedd criw y Ghana Thinktank wrthi’n gosod eu gwaith. Mae’r prif arddangosfa sydd ganddyn nhw yma ym Mhenarth, a dwi’n gobeithio mynd yno fory, ond maen nhw hefyd yn gosod un llai yma yn y ddinas.
Doeddwn i heb amgyffred beth oedd y prosiect yma yn iawn nes i mi siarad gyda’r criw amdano heddiw. Cyn i’r wyl ddechrau roedd trigolion Penarth a Chaerdydd wedi bod yn e-bostio’r criw gyda phroblemau personnol a chymdeithasol. Maen nhw wedyn yn anfon rhain at ‘thinktanks’ gwahanol ar hyd a lled y byd ar ffurf e-bost. Mae ganddyn nhw ‘thinktanks’ yn Ghana, Iran, El Salvador a Mecsico. Mae’r grwpiau yn y gwledydd hyn yna’n trafod y problemau ac yn cynnig atebion iddyn nhw.
Mae’r criw’r Gahana Thinktank yna’n mynd ati i gyfleu’r atebion ar ffurf sain a llun gan osod y cyfan mewn rhyw fath o gerflun, fel mae’r llun yma’n ei ddangos.
Ond beth sy’n ddiddorol am y prosiect yw’r atebion maen nhw’n ei gael i broblemau gwahanol. Roedd un cwestiwn a dderbyniwyd yn holi pam fod hen bobl mor sych ac yn edrych lawr eu trwynau ar yr ifanc. Yr ateb a gafwyd gan y ‘thinktank’ o Iran oedd – ewch o gwmpas strydoedd Caerdydd yn holi hen bobl am straeon doniol a difyr sydd ganddyn nhw o’u hieuenctid. Syniad da ‘de?!
Mae straeon henoed Caerdydd erbyn hyn yn rhan o’r prosiect yma felly da chi ewch i’w weld, unai tu allan i’r Amgueddfa Genedlaethol, neu yn y Ffotogallery ym Mhenarth.
- BROWSE / IN TIMELINE
- « Alfred Sirleaf’s – Daily Talk
- » Ghana Think Tank – Ffotogallery
- BROWSE / IN News
- « Blog Ciron: Bwyd Sonique
- » Update 23/09
SPEAK / ADD YOUR COMMENT
Comments are moderated.










